Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2019
Amser:
09.00 -
10.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5478
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Kathryn Thomas (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol yn ei le.
Fel rhan o drafodaeth y Pwyllgor o dan eitem 2.2 ar yr agenda, cytunodd yr Aelodau i adolygu'r deisebau y cyflwynwyd adroddiadau arnynt ac a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn, gyda'r bwriad o asesu'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:
o darparu'r sylwadau manwl a roddwyd gan y deisebwyr;
o gofyn am ymateb pellach i'r materion a godwyd, yn enwedig y pryderon nad yw gwasanaethau neu ddeunydd cam-drin domestig yn aml yn cwmpasu profiadau pobl hŷn;
o gofyn i'r Dirprwy Weinidog pa ddarpariaethau sydd ar waith ar gyfer dynion hŷn sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath.
· ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ofyn am ei hymateb i'r materion a godir yn y ddeiseb a gofyn iddi rannu rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae'n bwriadu ei wneud i atal cam-drin pobl hŷn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu'r sylwadau ychwanegol a roddwyd gan y deisebwyr, a gofyn am ymateb i'r pwyntiau ynghylch sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r rhai yr effeithir arnynt.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar yr ymateb a roddwyd gan y Llywydd ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â'u cynrychiolwyr etholedig i fwrw ymlaen â gwelliannau deddfwriaethol i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i weld beth fyddai'r datblygiadau wrth i'r DU ymadael â'r UE cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i eiddo gwag yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau’r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth ychwanegol a roddwyd gan y deisebwyr, a gofyn am wybodaeth am sut y mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi i fynegi pryderon am wasanaethau neu gymorth, ac i ymgysylltu â hunan-eiriolaeth.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o ddiweddariad ar y sefyllfa o ran cyllid i gwblhau astudiaeth ail gam WelTAG o'r opsiynau trafnidiaeth yn Ninas Powys;
o rhagor o wybodaeth gefndirol am y rhesymau dros y penderfyniad i beidio â symud ymlaen â gwaith pellach ar opsiwn y 'llwybr glas'.
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chael wrth ddatblygu cynigion i fynd i'r afael â materion trafnidiaeth yn Ninas Powys.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad oes llawer o gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r deisebydd a rhannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:
· gofyn am ddiweddariad ar yr amserlenni ar gyfer datblygu cod ymarfer ar gyfer primatiaid a gedwir fel anifeiliaid anwes; a
· mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i'r galwadau am gyflwyno gwaharddiad llawn ar gadw primatiaid yn anifeiliaid anwes.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am ragor o sylwadau neu wybodaeth gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; a
· gofyn am ragor o wybodaeth am nifer y trwyddedau a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a fyddai'n caniatáu lladd rhywogaethau a gategoreiddiwyd yn Goch ac Amber ar restrau'r RSPB.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau’r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r deisebydd a oedd ei chyfarfod arfaethedig â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi'i gynnal.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog, yn benodol a yw'n fodlon ar yr ymrwymiad i nodi person ifanc i weithredu fel cynrychiolydd ar y Grŵp, cyn ystyried cymryd camau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am amser i drafod y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref, o gofio ei bod wedi derbyn mwy na 5000 o lofnodion.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd mewn ymateb i bryderon ynghylch darpariaeth SARC (Canolfannau Cyfeirio Cam-drin Rhywiol) a'r ymrwymiad i adolygu canlyniadau'r prosiect peilot yn Llundain; a
· gofyn am farn y deisebydd ar y Cynllun gweithredu cenedlaethol atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, ar ôl iddo gael ei gyhoeddi
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd i gau'r ddeiseb o ystyried cynlluniau'r Pwyllgor hwnnw i gynnal ymchwiliad i sepsis yn nhymor yr hydref. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Addysg a chan Cymwysterau Cymru, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth nifer o randdeiliaid a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· Gofyn am farn asiantaethau cyflenwi am y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac ar ôl cael hynny
· defnyddio'r holl dystiolaeth a gasglwyd hyd yma i lunio adroddiad, gan gynnwys argymhellion, ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd, a chytunodd i aros i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Derbyn i Ysgolion diwygiedig gael ei gyhoeddi yn nhymor yr hydref 2019 cyn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, o gofio bod codiadau yn y dreth gyngor yn fater i'w benderfynu yn lleol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· darparu'r wybodaeth ychwanegol gan y deisebwyr i:
o Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a gofyn am ei hymateb i'r cynnig i gymhwyso'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu' i gostau rheoleiddio, monitro ac achosion o dorri rheolau; a'r
o Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â sylwadau'r deisebwyr ar y cylch gorchwyl ar gyfer y gweithgor amaethyddiaeth ddwys cynllunio gwlad a thref ac aros am ganlyniadau ei waith. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r Gweinidog i ba raddau yr oedd wedi ystyried effaith gronnus penderfyniadau cynllunio ac a fyddai'n ystyried diwygio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i ystyried hyn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac ymateb ar y cyd oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o i ofyn am wybodaeth am yr amserlen a'r broses ar gyfer adnewyddu Safon Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan;
o i rannu barn y Pwyllgor y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr arlwyo sector cyhoeddus mawr ddarparu dewis figan a llysieuol ar eu bwydlenni ac y dylai fod yn ofynnol i arlwywyr eraill yn y sector cyhoeddus ddarparu rheswm dros optio allan; ac
o i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i ddeddfwriaeth yn y maes hwn.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y brifysgol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am ei chynlluniau nawr ac yn y dyfodol mewn perthynas â niferoedd:
· y bobl a fydd yn cael eu hyfforddi i addysgu'r Gymraeg; a
· lleoedd fforddiadwy a lleoedd am ddim i ddysgwyr Cymraeg.
Derbyniwyd y cynnig
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar gynnwys rhai argymhellion ychwanegol.